Volunteering for Race The Train

A Message to this year's volunteers

Saturday, 16th August, 2025 was the culmination of weeks and months of hard work by our dedicated band of volunteers to us to host one of our most successful Tywyn Rotary Race the Train events in celebration of our forty years of races. This unique multi terrain event is firmly established in the running calendar, and the number of entrants was again well up on last years figures in all races, this reinforces our belief that despite a very small club giving up is not an option and recent interest shown and the overwhelming show of support will ensure that for now we continue.

The event draws in thousands and thousands of people to the area to the benefit of local businesses and allows any surplus monies to be distributed to the local schools, clubs and other worthy causes to support specific requests. It is with great humility that we, the Rotary Club of Tywyn wish to formally acknowledge the assistance of all who volunteered and willingly gave their time free of charge to support this charitable event.

We also wish to thank Mr David Thorpe and Ysgol Uwchradd Tywyn for the use of their facilities; the landowners who year on year allow the runners to cross their land and without their permission there would be no race. I also wish to thank the runners themselves who turn out in ever increasing numbers and make all the race preparation truly worthwhile and allow us to support local causes.

Without the dedication and commitment of the volunteers, landowners and runners there would be no race, and all your efforts are truly appreciated, and I very much look forward to seeing you all again next year on Saturday, 15th August, 2026.

Sincerely thank you all, Aled M Lewis, Tywyn Rotary Club President.    

Dydd Sadwrn, 16eg Awst, 2025 oedd uchafbwynt wythnosau a misoedd o waith caled gan ein criw ymroddedig o wirfoddolwyr, i'n galluogi i gynnal un o'n digwyddiadau Ras yn Erbyn y Trên Rotari Tywyn mwyaf llwyddiannus erioed, i ddathlu deugain mlynedd o rasys.

Mae'r digwyddiad unigryw hwn ar dir amrywiol bellach wedi'i sefydlu'n gadarn yn y calendr rhedeg, ac roedd nifer y cyfranogwyr unwaith eto'n uwch nag y llynedd ym mhob ras, sy’n atgyfnerthu ein cred fod rhoi’r gorau iddi ddim yn opsiwn, er ein bod yn glwb bach iawn. Mae’r diddordeb diweddar a’r gefnogaeth llethol a ddangoswyd yn sicrhau y byddwn, am y tro, yn parhau. Mae’r digwyddiad yn denu miloedd ar filoedd o bobl i’r ardal gan fanteisio ar fusnesau lleol, ac mae unrhyw arian dros ben yn cael ei ddosbarthu i ysgolion lleol, clybiau a chymunedau eraill teilwng i gefnogi ceisiadau penodol.

Gyda gostyngeiddrwydd mawr yr ydym ni, Clwb Rotari Tywyn, yn dymuno cydnabod yn ffurfiol y cymorth a roddwyd gan bawb a wirfoddolodd ac a roddodd eu hamser yn rhad ac am ddim i gefnogi’r digwyddiad elusennol hwn.

Rydym hefyd yn dymuno diolch i Mr David Thorpe ac Ysgol Uwchradd Tywyn am ddefnyddio eu cyfleusterau; i’r tirfeddianwyr sy’n flynyddol yn caniatáu i’r rhedwyr groesi eu tir – heb eu caniatâd, ni fyddai unrhyw ras.

Hoffwn hefyd ddiolch i’r rhedwyr eu hunain sy’n dod yn eu lluoedd cynyddol bob blwyddyn ac sy’n gwneud yr holl waith paratoi yn werth chweil, gan ein galluogi i gefnogi achosion lleol.

Heb ymroddiad a chydweithrediad y gwirfoddolwyr, y tirfeddianwyr a’r rhedwyr, ni fyddai unrhyw ras, ac mae eich holl ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr iawn.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi i gyd eto flwyddyn nesaf, ddydd Sadwrn, 15fed Awst, 2026.

Diolch yn ddiffuant i chi gyd,
Aled M Lewis, Llywydd Clwb Rotari Tywyn.